Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee
Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon
| Inquiry into Teachers' Professional Learning and Education

TT 16

Ymateb gan : Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru :
Response from : Wales Principal Youth Officers’ Group

Mae Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru (PYOG) yn gylch cynrychioli ac ynddo benaethiaid proffesiynol a strategol gwasanaethau ieuenctid yr awdurdodau lleol.  Mae rôl hirsefydlog i’r cylch ynglŷn â chynghori am ddatblygu a chynnig gwasanaethau i’r ifainc ac amryw fentrau eraill yn strategol ar ran Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW).  Mae’n un o’r is-gylchoedd yn strwythur ADEW.  Mae ganddo gyswllt strategol â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), hefyd.

 

Mae’r cylch yn croesawu cyfle i ymateb i’r ymgynghori am addysg a dysgu proffesiynol yr athrawon.

 

1.   Trefniadau datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu cyfredol

 

Mae cynnwys a strwythurau addysg yng Nghymru yn destun diwygio sy’n digwydd ond unwaith mewn cenhedlaeth i ofalu y bydd y cwrícwlwm yn ddiddorol ac yn berthnasol mewn byd mwyfwy nerthol ac ymestynnol.  Mae’r newidiadau sy’n mynd ymlaen yn rhoi pob ystyriaeth i anghenion a gofynion Cymru yn ogystal ag ymchwil ac arferion rhyngwladol.  Mae’r rhan fwyaf o’r rheiny’n cyfleu’r neges y bydd angen addysgu a dysgu rhagorol mewn unrhyw drefn addysg sydd am gyflawni llawer.

 

Un o’r datblygiadau fu sefydlu corff proffesiynol newydd, Cyngor Gweithlu Addysg, ar 1af Ebrill 2016.  Dyma brif nodau’r cyngor hwnnw:

·         helpu i wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu;

·         cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phobl eraill sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu;

·         diogelu buddiannau disgyblion, rhieni a’r cyhoedd a chadw ymddiried a hyder y bobl yng ngweithlu addysg.

Mae gorchwyl y corff rheoleiddio newydd i broffesiynolion addysg wedi’i ehangu o’i gymharu ag un ei ragflaenydd, Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, i gynnwys rhai rhannau eraill o sector addysg y wlad – addysg bellach, dysgu yn y gwaith a gwaith ieuenctid.  Mae PYOG yn gweld hynny’n ddatblygiad buddiol.  O safbwynt datblygiad proffesiynol parhaus, gallai gynnig y ffordd ddelfrydol o alluogi galwedigaethau sy’n ymwneud â’i gilydd i ddysgu trwy arferion, gwerthoedd ac egwyddorion ei gilydd o ran cynnig cyfleoedd i ddysgu mewn amryw sefyllfaoedd ac amgylchiadau er lles yr un plant a phobl ifanc, yn aml.  Er enghraifft, yn sgîl gwylio peth cydweithio rhagorol rhwng gweithwyr ieuenctid ac ysgolion/colegau, dyma argymhellion Comisiwn yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol dros rôl gwaith ieuenctid ym maes addysg ffurfiol (Hydref 2013, t. 29):

 

·         mae gwir angen i athrawon a gweithwyr ieuenctid gydweithio’n gryfach;

·         rhaid i ysgolion a cholegau ddysgu rhagor am sut y gall gwaith ieuenctid atgyfnerthu addysg ffurfiol;

·         dylai gweithwyr ieuenctid egluro a hybu cyfraniad gwaith ieuenctid yn well.

 

Gall fod rôl bwysig i wefan addysg Llywodraeth Cymru, Hwb, yn hynny o beth trwy ledaenu adnoddau, medrau a sylwadau.  Yn wir, mae PYOG yn cydweithio ar hyn o bryd â Llywodraeth Cymru i brofi adnoddau gwaith ieuenctid ar gyfer Hwb, a gallai hynny arwain at dudalennau arbennig iddo maes o law.

 

2.   Rôl hyfforddiant sylfaenol athrawon

 

Fel sydd wedi’i grybwyll uchod, un o’r prif resymau dros newid y cwrícwlwm yw bod cydnabyddiaeth nad yw dulliau traddodiadol yn paratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd a gwaith cyfoes mwyach.  Mae 68 o argymhellion yn yr adroddiad luniodd yr Athro Graham Donaldson ar ran Llywodraeth Cymru, sydd wedi’u derbyn i gyd.  Er bod rhai yn ymwneud ag agweddau addysg ffurfiol megis trefn y cwrícwlwm a’r asesu, mae cynnwys a diben llawer megis ehangder y cwrícwlwm, cyrhaeddiad ac addysgu yn berthnasol i waith ieuenctid.  Er nad yw rhai argymhellion eraill yn cyfeirio’n benodol at waith ieuenctid, mae dulliau ac egwyddorion gwaith ieuenctid wrth eu gwreiddiau.  Yn ôl argymhelliad 34, er enghraifft, dylai fod modd i blant a phobl ifanc fanteisio ar gyfleoedd i ddysgu trwy arbenigedd a phrofiad y tu allan i’r ysgol.  Mae argymhelliad 3 yn dweud y dylai plant a phobl ifanc ddatblygu fel a ganlyn:

 

Ø  dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n fodlon dysgu drwy gydol eu hoesau;

Ø  cyfranwyr mentrus a chreadigol sy’n fodlon cymryd rhan gyflawn yn eu bywydau a’u gwaith;

Ø  dinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru a’r byd;

Ø  unigolion iach a hyderus sy’n fodlon ennill eu plwyf er lles y gymdeithas.

 

O anelu at feithrin pobl ifanc yn ôl yr argymhellion hynny, rhaid inni feithrin athrawon ac addysgwyr a fydd yn cynnig y cyfleoedd perthnasol i wneud hynny.  Felly, fe fydd angen newid ein ffordd o addysgu a dysgu gan gynnwys gofyn i’r gweithlu a’r amryw gymunedau gydweithio.  Yn hytrach na mynd ati’n anghymesur i ofalu y bydd cynifer o bobl ifanc ag y bo modd yn llwyddo mewn arholiadau, rhaid meithrin hefyd y gallu i ffynnu’n unigolion trwy fedrau perthnasol fel y gall pawb gyfrannu at ei gymuned.  Yn ogystal ag amrywiaeth helaeth o fedrau galwedigaethol ac academaidd y bydd modd eu trosglwyddo, bydd angen medrau eraill a fydd yn galluogi pawb i ddefnyddio’r hyn sydd wedi’i ddysgu.

 

Fe fyddai PYOG yn annog Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithlu Addysg i ddechrau trafodaethau gyda’r sectorau sydd wedi’u crybwyll ac ystyried anghenion y rhai sy’n astudio ar gyfer swyddi megis darlithydd coleg, arbenigwr dysgu yn y gwaith a gweithiwr ieuenctid, yn ogystal ag anghenion athrawon.  Yn yr un modd, dylai’r egwyddor honno fod yn berthnasol wrth ystyried datblygiadau mewn rhannau eraill o’r gweithlu.  Yn y cyd-destun hwnnw, mae’n debyg y byddai’n ddoeth cynnig cyfleoedd i athrawon, darlithwyr, gweithwyr ieuenctid ac ati gysylltu â rhannau eraill o weithlu addysg i ddibenion dysgu.  Mae gan bob rhan o’r gweithlu arbenigedd ac arbenigwyr mewn gwahanol feysydd, ac mae pob un mor werthfawr i gynnydd ein gwlad a datblygiad ei thrigolion unigol â’i gilydd.  Bydd yn bwysig cadw arbenigedd o’r fath wrth geisio gwella ansawdd addysg yng Nghymru.

 

3.   Digonedd gweithlu’r dyfodol

 

Byddai PYOG yn dadlau y byddai modd cynnal y gweithlu yn ei gyfanrwydd pe bai’r argymhellion uchod am ddatblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant sylfaenol yn llwyddo.  Trwy gynnig addysg gymysg yn ôl awgrymiadau Cwrícwlwm Oes, byddai’r plant a’r bobl ifanc yn cael eu haddysgu’n fwy cyfannol a byddai’r gweithwyr ar eu hennill trwy amrywiaeth ehangach o gyfleoedd i ddysgu.  Ar ben hynny, bydd modd i’r gweithlu ddeall ffyrdd eraill o gynnig addysg yn well.  Byddai hynny – gwylio sut mae’r addysgwyr yn dysgu – o fudd i’r plant, hefyd.

 

4.   Parodrwydd y gweithlu i roi’r cwrícwlwm newydd ar waith

 

Mae PYOG o’r farn y bydd yn hollbwysig cynnwys holl weithlu addysg ym mhob cam o broses llunio a defnyddio’r cwrícwlwm.  Bydd angen ymdrech fawr gan bawb i newid ein ffordd o gynnig a phrofi addysgu a dysgu.  Mae sylfeini addawol yn barod, megis Cyngor Gweithlu Addysg a chylch Llywodraeth Cymru ar gyfer adolygu’r cwrícwlwm ar ran budd-ddalwyr.  Bydd yn hanfodol defnyddio a datblygu’r rheiny yn effeithiol.  Er ein bod yn cydnabod mai’r ysgolion sy’n addysgu’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc Cymru, mae angen cynnwys nifer o weithgareddau eraill yn y broses.  Fe fydd rhai o’r gweithgareddau hynny’n ymwneud â phlant a’r ifainc ar amryw adegau o’u haddysg.  Bydd eraill, megis gwasanaethau ieuenctid ar gyfer rhai rhwng 11 a 25 oed, yn ymgysylltu â’r un plant a phobl ifanc ar adegau gwahanol megis gwyliau neu ar ôl yr ysgol.  Er bod rhaid paratoi a hyfforddi’r athrawon, rhaid ymgynghori’n llawn â gweithlu’r amryw weithgareddau eraill fel y byddan nhw’n ymwybodol ac yn barod i’r un graddau yn ystod y daith.